Mae Angharad, a aned ac a fagwyd yn y Porth, Rhondda, wedi bod yn gweithio fel cyfarwyddwr theatr, opera a ffilm ers 2009 a chyflwynwyd gwobr Cyfarwyddwr y Flwyddyn y British Theatre Guide iddi yn 2018. Wedi graddio o’r Academi Gerdd Frenhinol a’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae hi wedi gweithio ar sawl perfformiad gyda sefydliadau fel Opera Cenedlaethol Cymru, Theatr y Sherman, Canolfan Mileniwm Cymru, The Other Room, Difficult Stage, Arad Goch, Taking Flight Theatre, Theatrau RhCT ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr llawrydd, mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Artistig gyda chwmni Leeway Productions, a welodd ei cynhyrchiad blaenllaw o The Last 5 Years yn derby canmoliaeth mawr wrth iddi ddatblygu iaith theatrig newydd sbon gyda’r coreograffydd Mark Smith, ac y mae eu prosiect sioeau cerdd 10-munud wedi darparu llwyfan i bartneriaethau creadigol newydd ffynnu ledled Cymru. Yn gyfrifol am gyfarwyddo seremonïau agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Cymru dros y blynyddoedd diwethaf (Lloergan ac Y Tylwyth), mae ei gwaith cyfarwyddo yn ymestyn trwy gynyrchiadau cenedlaethol ar raddfa fawr i sioeau un person ar lawr gwlad.

Mae Angharad yn frwd dros ddysgu creadigol ac ymwreiddio creadigrwydd ar draws y cwricwlwm yng Nghymru ac mae wedi gweithio gyda’r Brifysgol ar brosiectau amrywiol yn y gorffennol. Mae hi nawr yn edrych ymlaen at barhau â’i gwaith gyda myfyrwyr y Brifysgol yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru. Dywedodd Angharad:

“Rwy’n falch iawn o gamu i’r rôl hon ar ôl blynyddoedd o addysgu a chyfarwyddo ar gyrsiau amrywiol ar draws WAVDA. Mae’r rôl hon wedi dod ar adeg gyffrous iawn i’r campws gyda’n niferoedd yn cynyddu a’r ddarpariaeth yn ehangu.

Byddaf yn cydweithio ag Elen Bowman i gydlynu’r elfen actio o’n cyrsiau a chynllunio ar gyfer y dyfodol i sicrhau bod yr hyn rydym yn ei ddysgu yn WAVDA yn parhau i fod ar flaen y gad ac yn adlewyrchu anghenion y diwydiant.”

Wrth iddo groesawu Angharad i’r Drindod Dewi Sant, ychwanegodd Eilir Owen Griffiths, Cyfarwyddwr Academi WAVDA (Creadigol):

“Mae Angharad wedi bod yn cefnogi’r Academi ers blynyddoedd lawer ac rydw i wrth fy modd ei bod hi bellach wedi ymuno â’r tîm craidd o staff. Mae hi’n dod â chyfoeth o brofiad i’r Brifysgol ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi i ddatblygu’r ddarpariaeth yng Nghaerdydd i’r dyfodol.”

I gael gwybod mwy am gyrsiau y brifysgol yn WAVDA, cliciwch ar y ddolen ganlynol: https://www.uwtsd.ac.uk/cy/wavda/

Gwybodaeth Bellach
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Arwel Lloyd trwy anfon neges e-bost at Arwel.lloyd@uwtsd.ac.uk / 07384 467076

Press Release by UWTSD